Amgodio, storio, adalw a phrosesu gwybodaeth sy'n ymwneud â chydryw, neu aelodau o'r un rhywogaeth, yn yr ymennydd ydy gwybyddiaeth gymdeithasol. Ar un adeg, cyfeiriai gwybyddiaeth gymdeithasol yn benodol at ddull o seicoleg gymdeithasol lle'r astudiwyd y prosesau hyn yn unol â dulliau seicoleg gwybyddol a damcaniaeth prosesu gwybodaeth. Fodd bynnag, defnyddir y term bellach ym meysydd seicoleg a niwrowyddoniaeth wybyddol. Er enghraifft, fe'i ddefnyddir i gyfeirio at wahanol alluoedd cymdeithasol a effeithir gan awtistiaeth.[1] ac anhwylderau eraill.[2] Gyda niwrowyddoniaeth gwybyddol, astudir sylfeini biolegol gwybyddiaeth gymdeithasol.[3][4][5] Mae seicolegwyr datblygiad yn astudio datblygiad galluoedd gwybyddol cymdeithasol.[6]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search